Dinistrio data sensitif
Yn CWM Environmental, rydym yn cymryd dinistrio data o ddifrif. Rydym yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth hollol ddiogel a dibynadwy. Dyna pam mae ein holl staff dinistrio yn cael eu hyfforddi a’u gwirio gan DBS i sicrhau bod cyfrinachedd yn flaenoriaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein prosesau dinistrio data neu’r offer a ddefnyddiwn, cofiwch gysylltu â ni. Rydym yn hapus i helpu a bydd eich holl ymholiadau yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.

Gwasanaethau gwastraff cyfrinachol
Rydym yn darparu ystod o atebion penodol i gleientiaid wedi’u teilwra i’ch union ofynion. Gallwn warantu y bydd eich holl ddata yn cael eu dinistrio’n llwyr fel nad oes modd eu hadfer ac mae ein gwasanaethau heb eu hail yn gyfeillgar, yn gyflym ac yn hyblyg.
• Biniau diogelwch 120 litr wedi’u cloi
• Gwasanaeth bagiau
• Llogi sgip amgaeedig
• Casgliadau drwy faniau a phobl
• Llwybr archwilio cyflawn
• Tystysgrif Dinistrio

Ein gwasanaethau ailgylchu a gwastraff masnachol
Mae ein gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu masnachol amrywiol wedi’u teilwra i anghenion penodol eich busnes, gan roi partner i chi y gallwch ddibynnu arno.
