Rydym wedi bod yn ailgylchu eich gwastraff ers dros 30 mlynedd. Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi addasu ac esblygu i ddiwallu anghenion y diwydiant. P’un a yw’n atgyweirio, ailgylchu neu ailddefnyddio, mae ein tîm cyfeillgar a phroffesiynol wedi bod yn gweithio gyda phobl leol ac adnoddau i leihau’r ddibyniaeth ar safleoedd tirlenwi a lleihau ôl troed amgylcheddol Sir Gaerfyrddin.

Heddiw, rydym yn rhoi yn ôl i’r sir a’r amgylchedd lleol drwy ein canolfannau ailgylchu ac ailddefnyddio, yn ogystal â’n hamrywiaeth o gynhyrchion naturiol ac organig Merlin’s Magic.

Dewch i wybod mwy am ein stori.

Ein hanes

Ein canolfannau ailgylchu

Rydym yn gweithredu pedair o ganolfannau ailgylchu gwastraff ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn derbyn gwastraff amrywiol o’r cartref ac rydym wedi ymrwymo i wahanu ac ailgylchu cymaint â phosibl o’r deunyddiau hyn.

Carmarthenshire Map

Ein Heffaith

Rydym yn mynd ati’n barhaus i leihau effaith ein gwaith ar yr amgylchedd. O ddefnyddio cerbydau trydan i osod tyrbinau gwynt ar ein safleoedd i sicrhau bod ein gwefan yn garbon-niwtral, rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o leihau ein hallyriadau.

Edrychwch ar ein heffaith hyd yma eleni.

Landfill gas pipe sticking out of the ground with a wind turbine in the background
Wind turbine in the background and sunflower meadow in the foreground

Ein gwerthoedd craidd

  • Hygrededd

    Rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Mae arweinyddiaeth, perchnogaeth a chyfrifoldeb effeithiol yn ein cynorthwyo wrth i ni anelu at ragoriaeth. Mae rhagoriaeth yn arwain at ansawdd, sydd wrth wraidd popeth a wnawn.

  • Rhagoriaeth

    Rydym yn gweithio’n well mewn partneriaeth. I’n cleientiaid, ni yw’r partner sy’n gwrando, yn deall, yn cynghori ac yn gweithredu i wella. Os bydd eu hanghenion yn newid, rydym yn addasu’n unol â hynny. Yr ymrwymiad dwfn hwn sy’n ein gwneud ni a’n rhanddeiliaid yn gryfach.

  • Grymuso

    Rydym yn gofyn. Rydym yn gwrando. Rydym yn grymuso. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn buddsoddi yn ein gweithwyr, gan mai ein gweithwyr sy’n gwneud i bethau ddigwydd. Rydym am i’n staff gyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithwyr a’u trin yn deg, yn gyfartal ac â pharch.

  • Cynaliadwyedd

    Mae iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd yn flaenoriaeth allweddol i ni, ein gilydd, ein cwsmeriaid ac i aelodau ein cymunedau.

    Ein polisi ar yr amgylchedd
    Ein polisi iechyd a diogelwch

  • Creadigrwydd

    Rydym yn annog creadigrwydd, menter ac arloesedd drwyddi draw. Er mwyn bod yn greadigol, mae’n rhaid i ni greu diwylliant cadarnhaol, brwdfrydig a pharchus yn gyntaf. Mae’r diwydiant yn esblygu ac rydym yn croesawu heriau a chyfleoedd newydd, gan greu atebion wedi’u teilwra.

Ein Gwasanaethau masnachol

Ailgylchu eich gwastraff mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Bob mis rydym yn helpu cannoedd o fusnesau lleol i gael gwared ar wastraff yn gyflym, yn ddiogel ac yn gyfrifol. P’un a yw’n fusnes bach neu’n brosiect masnachol mawr, gallwn ni helpu.

Airial photograph of CWM