Gwastraff gweddilliol MRF
Mae ein cyfleuster ailgylchu deunyddiau gwastraff (MRF) yn cefnogi cwsmeriaid preswyl a masnachol ledled Cymru.
Gan weithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, mae ein cyfleusterau uwch yn defnyddio technegau gwahanu mecanyddol a chorfforol blaengar i sicrhau proses symlach, gynaliadwy a chost-effeithiol. Ein nod yw ailgylchu cymaint â phosibl o ddeunyddiau, gan leihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Yn ogystal, rydym yn arbenigwyr yn y diwydiant tanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF) ac yn cyflenwi gwastraff solet trefol (MSW) i farchnadoedd RDF Ewropeaidd.
Os ydych chi’n awdurdod lleol neu’n fusnes sydd angen ateb ar gyfer symiau mawr o wastraff swmpus a chyffredinol, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion a dysgwch sut y gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau cynaliadwyedd.

Yr hyn rydym yn ei gynnig
• Cyfraddau ailgylchu uchel
• Dulliau adrodd ardderchog
• Dadansoddi cyfansoddiadol
• Capasti i ymdrin â thunelli uchel
• Byddwn yn ystyried pob math o wastraff


Cyfleuster ailgylchu gwastraff cymysg sych MRF
Rydym wrthi’n datblygu cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer gwastraff cymysg sych. Unwaith y bydd y cyfleuster ar agor bydd yn gartref i ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin.
Angen cymorth â’ch deunyddiau ailgylchadwy nawr? Edrychwch ar ein canolfan ailgylchu masnachol.

Beth yw tanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF)?
Mae tanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF) yn fath o danwydd a gynhyrchir trwy brosesu a rhwygo gwastraff trefol solet i greu deunydd mwy unffurf. Yna gellir llosgi’r deunydd hwn i gynhyrchu ynni mewn cyfleusterau fel gweithfeydd pŵer ac odynau sment.
Mae tanwydd sy’n deillio o sbwriel yn ddewis amgen cynaliadwy a chost-effeithiol yn lle tanwydd ffosil traddodiadol gan ei fod yn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi tra’n cynhyrchu ynni. Yn ogystal, mae’n fath o ynni adnewyddadwy a all gyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Cludo gwastraff
Mae ein hadran cludo gwastraff wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae gennym bellach fflyd o gerbydau a all gasglu gwastraff a deunyddiau o’n canolfannau ailgylchu, gorsafoedd trosglwyddo ac oddi wrth ein cwsmeriaid.

