Mae ein cynnyrch amrywiol Merlin’s Magic wedi’i wneud o ddeunyddiau lleol organig yn ein cyfleuster compost yn Nantycaws. Dros y blynyddoedd, mae Merlin’s Magic wedi dod yn enw cyfarwydd yn Sir Gaerfyrddin a’r siroedd cyfagos am ei briodweddau naturiol rhagorol a’i effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Merlin’s Magic Compost
Rydym yn falch o gynhyrchu ein compost organig di-fawn ein hunain ar gyfer ein cwsmeriaid, yn ogystal ag elusennau ac ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin.
Ochr yn ochr â’r nitrogen, ffosffad a photasiwm i helpu’ch planhigion i dyfu’n gryfach a blodeuo’n harddach, gall ein compost hud wella strwythur a draeniad eich pridd, felly mae eich gardd yn parhau i ffynnu.
Rhestr o fuddion:
- Cyfoethog mewn maetholion
- Perffaith ar gyfer tirlunio
- Ddim mawn
- Organig
Casglu compost ar gyfer eich gardd
Gallwch gasglu bagiau o’n compost a gynhyrchir yn lleol o unrhyw un o’n canolfannau gwastraff y cartref ac ailgylchu yn y sir.
Gallwch gasglu compost mewn swmp a rhydd o gyfleuster compostio Nantycaws am £35.00 fesul tunnell lle bydd eich cerbyd neu ôl-gerbyd addas yn cael ei lwytho a’i bwyso.
Oriau agor ar gyfer casglu mewn swmp:
Dydd Llun i Ddydd Gwener 08.30 hyd 15.30.
Gallwch gasglu bagiau o gompost o’n canolfan ailgylchu ar gyfer y cartref am £2.50 fesul bag 45L.
Gall bagiau o gompost neu gompost rhydd hefyd gael eu cludo Sgips CWM.
Merlin’s Magic Honey
Ar y cyd â Gwenyn Gruffydd Welsh Honey, rydym yn gweithio i wella ecoleg ein hamgylchedd lleol a’n hardaloedd ehangach. Ers 2022, rydym wedi plannu 11 erw o flodau gwyllt a blodau haul ac wedi gosod 12 cwch gwenyn ger un o’n morlynnoedd dŵr croyw yn Nantycaws. Cynhyrchodd ein 900,000 o wenyn 150kg o fêl blasus yn 2022 yn unig ac rydym yn gobeithio cael hyd at filiwn o wenyn yn 2023.
Gwyliwch ein fideo i wybod mwy.
Y newyddion diweddaraf o’n hyb cynnwys
-
What Is Eto?
Canolfan Eto: Diverting Waste, Driving Change Since its inception three years ago, Canolfan Eto has stood as a cornerstone of…
-
Eto’s Festive Fun
‼️ Important Update ‼️ Updated Friday 6th of December 2024 – 09:20 Due to the storm and amber weather warning…
-
Recycling Isn’t an Option… It’s Essential
By 2050, the world will produce a staggering 3.4 billion metric tons of waste yearly. That’s enough to fill thousands…