Gwastraff gwyrdd
Gall gwastraff gwyrdd gael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd gynaliadwy, o gyflyru ac ychwanegu mater organig i bridd i wella ei strwythur a’i ddraeniad, hyrwyddo twf planhigion a bywiogi blodau.
Mae ei gyfansoddiad naturiol yn cynnwys nitrogen ar gyfer dail gwyrddach, ffosffad ar gyfer datblygu gwreiddiau cryf, potasiwm ar gyfer ffrwythau a blodau iach, ac elfennau olrhain ar gyfer egni planhigion.
Bob blwyddyn, mae dros 24,000 tunnell o wastraff gwyrdd yn cael ei gasglu yn ein canolfannau gwastraff y cartref ac ailgylchu a’i gludo i’n cyfleuster compost yn Nantycaws i’w brosesu fel y gellir ei ddefnyddio yn eich gardd.
Sut y mae gwastraff gwyrdd yn troi’n gompost…
Cam 1: Diheintio
Mae gwastraff gwyrdd yn cyrraedd ein safleoedd ac yn cael ei wirio am halogiad a’i dorri’n sypiau wedi’u rhifo.
Mae tymheredd y gwastraff yn cael ei fonitro o fewn y sypiau hynny i sicrhau bod y tymheredd a godwyd yn gallu lladd unrhyw bathogenau diangen.
Cam 2: Sefydlogi
Yna mae pob swp o gompost yn cael ei fonitro, ei awyru a’i droi i sicrhau bod y broses yn parhau i fod yn aerobig.
Mae’r broses sefydlogi fel arfer yn para am saith wythnos. Byddai’r tymheredd cyfartalog yn y cam hwn rhwng 62 a 68 gradd Celsius.
Cam 3: Aeddfedu
Erbyn y cam hwn mae’r compost yn cael ei sgrinio i’w radd berthnasol a’i ddychwelyd i’w swp rhifedig.
Yma, bydd yn dechrau oeri a bydd yn barod i’w roi mewn bagiau.
Cynnyrch Amrywiol Merlin’s Magic
Mae cynnyrch amrywiol Merlin’s Magic a wneir o ddeunyddiau lleol organig wedi dod yn enw cyfarwydd yn Sir Gaerfyrddin a’r siroedd cyfagos am ei briodweddau naturiol eithriadol a’i effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.